Bydd ELEN, sef The European Language Equality Network, prif fudiad Ewrop ar gyfer gwarchod a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, yn cynnal Cynulliad Cyffredinol yng Nghaerdydd ddiwedd mis Hydref. Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a bydd yn gyfle i gynrychiolwyr mudiadau iaith o bob rhan o Ewrop I DDOD ynghyd ym mhrifddinas Cymru.
Mae’r Cynulliad Cyffredinol yn agor ddydd Gwener, 28 Hydref, gyda derbyniad swyddogol yn Y Deml Heddwch, Caerdydd, gydag araith groeso gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas. Ymhlith y gwesteion bydd cyrff a mudiadau sy’n aelodau o ELEN, arsylwyr rhyngwladol, aelodau’r Senedd, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau rhyngwladol, a’r cyfryngau. Ddydd Sadwrn, 29 Hydref, bydd Llywodraeth Cymru’n agor y Cynulliad Cyffredinol gyda chyflwyniad ar arferion gorau o ran cynnal a datblygu’r iaith Gymraeg yngnghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050, sydd yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd y Gymraeg erbyn 2050. Bydd y bore’n parhau gyda phanel ar gymunedau cynaliadwy gyda’r siaradwyr yn canolbwyntio ar faterion megis sut mae’r argyfwng ail gartrefi yn effeithio ar y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill – a’r cynlluniau ar gyfer delio â hynny. Yn ei chyflwyniad bydd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, yn trafod gwaith Swyddfa’r Comisiynydd yng nghyd-destun Cymru gyfoes. Bydd ymgyrchwyr yr iaith Wyddeleg, Conradh na Gaeilge, yn trafod y llwyddiannau sylweddol yn natblygiad yr Wyddeleg yng ngogledd Iwerddon gydag ailsefydlu cymunedau Gwyddeleg eu hiaith mewn cyd-destun dinesig a threfol, canlyniadau diweddaraf y Cyfrifiad sydd yn adrodd cynnydd yn nifer y siaradwyr, ac ar ddeddfwriaeth yn yr iaith Wyddeleg sydd bellach yn bwrw ymlaen drwy Senedd y DU. Un cwestiwn pwysig fydd: pam y mae’r ymgyrch gymunedol hon wedi bod mor effeithiol a pha wersi y gall aelodau ELEN eu dysgu ohoni? Mae’r panel ar Ddegawd UNESCO ar gyfer Ieithoedd Brodorol yn cynnwys siaradwyr o Gyngor Ewrop, aelodau newydd ELEN: Linguapax International, Prifysgol Caerdydd, a’r cyn-ASE Plaid Cymru Jill Evans. Byddant yn trafod rôl NGOs Ewropeaidd wrth adeiladu cymuned fyd-eang ar gyfer cadw, adfywio, a chefnogi ieithoedd brodorol ledled y byd. Arloesedd ar gyfer 2022 yw gweithdy’r ymgyrchwyr. Mae Aelod-sefydliadau ELEN yn fudiadau iaith blaenllaw yn Ewrop a rhyngddynt mae yma gryn arbenigedd. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar waith ymgyrchu, yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus, a’r hyn y gellir ei wella. Trafodir gwahanol ddulliau o weithio’nllwyddiannus fel mudiadau ymgyrchu gan gynnwys cysylltu ymgyrchoedd dros gyfiawnder ar draws grwpiau neu nodweddion cymdeithasol. Wrth siarad gyda’r wasg cyn y digwyddiad, dywedodd Llywydd ELEN, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hollbwysig fod cyrff a mudiadau o Gymru yn chwarae rhan ragweithiol yn Ewrop ym maes normaleiddio iaith ac yn parhau i adeiladu ar y degawdau o gysylltiadau, arbenigedd a phrofiad sydd wedi cyfrannu cymaint at ein nod cyffredin o sicrhau dyfodol i’n holl ieithoedd. Mae cynnal Cynulliad Cyffredinol ELEN yma yng Nghymru yn rhan bwysig o’r genhadaeth hon ac edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr a siaradwyr lleol a rhyngwladol.” Ychwanegodd Ysgrifennydd Cyffredinol ELEN, Davyth Hicks: “Rydym yn hynod falch ein bod yn cyfarfod yng Nghymru – gwlad sydd wedi bod yn arwain y byd gyda pholisïau llwyddiannus sy’n cynnal a chadw’r iaith ac sydd bellach yn anelu at filiwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu’r defnydd ohoni. “Gyda chynifer o sefydliadau iaith o bob rhan o Ewrop yn dod i brifddinas Cymru, mae Cynulliad Cyffredinol ELEN yn gweithredu er mwyn cynnal y cysylltiad parhaus rhwng Cymru ac Ewrop, cysylltiad a fydd yn hanfodol yn ein nod cyffredin o adfer yr iaith yn llawn. “Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyda’r Cynulliad Blynyddol ac edrychwn ymlaen at berthynas weithio agos gyda nhw ar gyfer y dyfodol.” (Eurolang 2022) Nodyn i olygyddion: ELEN yw’r NGO rhyngwladol sy’n gweithio er mwyn hyrwyddo, amddiffyn ac er lles ieithoedd tiriogaethol Ewrop. Mae’n cynrychioli 50 o ieithoedd gyda 174 o aelod-sefydliadau mewn 25 o wladwriaethau Ewropeaidd. Mae Cynulliad Cyffredinol ELEN yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cynhelir Cynhadledd i’r Wasg y Cynulliad Cyffredinol am 11.00, dydd Sadwrn,29ain Hydref yn lleoliad y Cynulliad Cyffredinol, Gwesty’r Mercure yng nghanol Caerdydd. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag ELEN neu PCYDDS.
|