Partners of the LISTEN project are holding a reception at Galeri Caernarfon at 5.00 pm on Thursday 24th March where there will be a chance for all who are interested to learn more about Language Assertiveness Training.

The speakers will be Professor Ferran Suay who first developed Linguistic Assertiveness training in Valencia. Kathryn Jones will talk about how IAITH: Welsh Centre for Language Planning is developing language assertiveness training in Wales. Jeremy Evas, head of Project 2050 at Welsh Government, will speak about how Language Assertiveness fits with other Welsh Government initiatives to increase the social use of Welsh. Other members of the LISTEN project from the North of Ireland, Fryslan, Transylvania and Valencia will also be on hand to talk about the developments in their own contexts.

One of the aims of the LISTEN project is to teach the concept of language assertiveness to speakers of co-official, endangered, indigenous,  and minoritised languages (RMLs). The LISTEN project will be piloting a training programme that helps RML speakers express themselves in their own language whilst feeling calm and self-assured, as well as when people are uncertain if their counterparts are speakers of the same language.

The project was developed after research found that speakers of lesser-used languages tend to switch to the dominant language in certain contexts and situations. When the minoritised language is not officially supported the switch can be faster and more frequent.

Psychologists describe this kind of language switching behaviour as “submissiveness”. Submissiveness is a spontaneous, self-induced suppression of a certain behaviour in favour of another one by virtue of habit, or of fear of punishment. Linguistic submissiveness happens when somebody stops speaking her or his minoritised language and decides to switch to the dominant language.

If, for example, a Welsh speaker enters a local shop in a Welsh-speaking area of Wales and they start to speak English to the staff, then that person is being linguistically submissive. If two speakers of Irish are having a conversation when a stranger approaches them and they switch to English before being spoken to, then they are being linguistically submissive.

Professor Ferran Suay, University of Valencia, was the first to develop the concept of ‘linguistic assertiveness’ which has been addressed in several publications such as Sortir de l’armari lingüístic (Leaving the linguistic closet) published in 2010.

Professor Suay said: “There are many forms of linguistic submissiveness. All of them can create anxiety in the speaker which may lead to a sense of failure and helplessness. The good news is that it is a behaviour and as such it can be treated by using methods being developed by the LISTEN project. With time, practice, and goodwill, the project aims to empower all Regional and Minority Language speakers and increase the social use of their language”.

Dr. Kathryn Jones, Managing Director of IAITH: Welsh Centre for Language Planning said: “In Wales, it is common for Welsh speakers and learners to choose to use English rather than Welsh or switch to English from Welsh in all kinds of situations – many of these choices and behaviours can be viewed as ‘linguistic submissiveness’. IAITH is leading on this work in Wales and we are excited to be developing a Welsh approach to ‘linguistic assertiveness’ based upon the work of Ferran Suay and in collaboration with our LISTEN project colleagues from the North of Ireland, Italy, Frysland, Romania and Valencia. The training we are developing will give all kinds of Welsh speakers – whether they are fluent or learning the language – the skills to feel better about using Welsh in all kinds of contexts and so increase everyone’s social use of Welsh”.

The LISTEN project consortium comprises the University of València and Sapientia University in Kolozsvár, the ILC research department in computational linguistics at the Consiglio Nazionale delle Ricerche (Pisa), language-planning specialists IAITH: Welsh Centre for Language Planning (Cymru / Wales), the Frisian NGO Afûk, the Irish NGO Conradh na Gaeilge, and the European Language Equality Network (ELEN). The project is supported by the EU Erasmus Plus programme.

The project has produced a short video about the concept of language assertiveness available in Cymraeg, Frisian, Irish, Hungarian and English, which can be viewed here: https://www.youtube.com/channel/UCX5TndiSlIOoHsbJdRqnyvA

Information on the project is on the Listen website: https://listen-europe.eu/

Prosiect LISTEN i gynnal digwyddiad arbennig yng Nghaernarfon ar cadernid iaith.

Mae aelodau prosiect LISTEN yn cynnal derbyniad yn Galeri Caernarfon am 5.00pm ddydd Iau 24ain Mawrth lle bydd cyfle i bawb sydd â diddordeb dod i ddysgu rhagor am Hyfforddiant Pendantrwydd neu Cadernid Iaith.

Y siaradwyr fydd yr Athro Ferran Suay a ddatblygodd hyfforddiant Linguistic Assertiveness gyntaf yn Valencia. Bydd Kathryn Jones yn siarad am sut mae IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith yn datblygu hyfforddiant cadernid iaith yng Nghymru. Bydd Jeremy Evas, pennaeth Prosiect 2050 Llywodraeth Cymru, yn siarad am sut mae Pendantrwydd neu Cadernid Iaith yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Bydd aelodau eraill o brosiect LISTEN o Ogledd Iwerddon, Frysland, Romania a Valencia hefyd wrth law i siarad am y datblygiadau yn eu cyd-destunau eu hunain.

Un o  nodau’r prosiect LISTEN yw addysgu’r cysyniad o bendantrwydd neu gadernid iaith i siaradwyr ieithoedd cyd-swyddogol, ieithoedd sydd mewn perygl, ieithoedd cynhenid, a ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol (IRhLl).  Bydd prosiect LISTEN yn treialu rhaglen hyfforddi sy’n helpu siaradwyr IRhLl i fynegi eu hunain yn eu hiaith eu hunain tra’n teimlo’n ddigynnwrf ac yn hunan-sicr, yn ogystal â phan fydd pobl yn ansicr os yw pobl eraill yn siaradwyr o’r un iaith.

Datblygwyd y prosiect ar ôl i ymchwil ganfod bod siaradwyr ieithoedd llai eu defnydd yn tueddu i newid i’r iaith fwyafrifol mewn rhai cyd-destunau a sefyllfaoedd. Lle na chefnogir yr iaith leiafrifol yn swyddogol gall y newid n iaith i’r llall fod yn gyflymach ac yn amlach.

Mae gan seicolegwyr enw am yr ymddygiad hwn: ymostyngiad. Mae ymostyngeiddrwydd yn golygu bod rhywun yn atal ei hun (yn ddigymell) rhag ymddwyn mewn rhyw ffordd o ganlyniad i arfer, neu ofn cael ei gosbi. Mae ymostyngiad ieithyddol yn digwydd pan fydd rhywun yn stopio siarad ei iaith ei hun ac yn newid i’r iaith fwyafrifol, hyd yn oed pan nad oes unrhyw un wedi gofyn iddynt i wneud hynny.

Er enghraifft, os bydd siaradwr Cymraeg yn mynd i mewn i siop leol mewn ardal Gymraeg yng Nghymru a’u bod yn dechrau siarad Saesneg â’r staff, yna mae’r person hwnnw’n ieithyddol ymostyngol. Os yw dau siaradwr o’r Wyddeleg yn cael sgwrs pan fydd rhywun diarth yn mynd atynt a’u bod yn newid i’r Saesneg cyn siarad â hwy, yna maent yn ieithyddol ymostyngol.

Yr Athro Suay, Prifysgol Valencia, oedd y cyntaf i ddatblygu’r cysyniad o ‘bendantrwydd ieithyddol’ sydd wedi cael sylw mewn sawl cyhoeddiad fel Sortir de l’armari lingüístic (Gadael y closet ieithyddol) a gyhoeddwyd yn 2010.

Dywedodd yr Athro Suay: “Mae sawl math o fod yn ymostyngol yn ieithyddol. Gall pob un ohonynt greu pryder yn y siaradwr a allai arwain at ymdeimlad o fethiant a bod yn ddiymadferth. Y newyddion da yw ei fod yn ymddygiad ac felly gellir ei drin drwy ddefnyddio dulliau sy’n cael eu datblygu gan y prosiect LISTEN. Gydag amser, ymarfer ac ewyllys da, nod y prosiect yw grymuso pob  siaradwr iaith rhanbarthol a lleiafrifol a chynyddu’r defnydd cymdeithasol o’u hiaith”.

Dywedodd Dr Kathryn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr IAITH: Canolfan Cynllunio Ieithyddol Cymru: “Yng Nghymru, mae’n gyffredin i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ddewis defnyddio’r Saesneg yn hytrach na Chymraeg neu newid i’r Saesneg o’r Gymraeg mewn pob math o sefyllfaoedd – gellir ystyried llawer o’r dewisiadau a’r ymddygiadau hyn fel ymddygiad ymostyngol neu gwasaidd. Mae IAITH yn arwain ar y gwaith hwn yng Nghymru ac rydym yn gyffrous i fod yn datblygu ymagwedd Gymreig at ‘bendantrwydd neu gadernid ieithyddol’ yn seiliedig ar waith Ferran Suay Lerma ac mewn cydweithrediad â’n partneriaid prosiect LISTEN o Ogledd Iwerddon, yr Eidal, Frysland, Romania a Valencia. Bydd yr hyfforddiant rydym yn ei ddatblygu yn rhoi’r sgiliau i bob math o siaradwyr Cymraeg – p’un a ydynt yn rhugl neu’n dysgu’r iaith – deimlo’n well am ddefnyddio’r Gymraeg mewn pob math o gyd-destunau ac felly’n cynyddu defnydd cymdeithasol pawb o’r Gymraeg”.

Mae consortiwm prosiect LISTEN yn cynnwys Prifysgol València a Phrifysgol Sapientia yn Kolozsvár; adran ymchwil yr ILC mewn ieithyddiaeth gyfrifiadurol yn y Consiglio NaziRale delle Ricerche (Pisa); arbenigwyr cynllunio iaith IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith; yr NGO Ffriseg Afûk; yr NGO Gwyddelig Conradh na Gaeilge; ac ELEN y  Rhwydwaith Cydraddoldeb Iaith Ewropeaidd. Cefnogir y prosiect gan raglen Erasmus Plus yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r prosiect wedi cynhyrchu fideo byr am y cysyniad o cadernid iaith sydd ar gael yn Gymraeg, Ffriseg, Hwngari a Saesneg, sydd i’w weld yma: https://www.youtube.com/channel/UCX5TndiSlIOoHsbJdRqnyvA

Mae gwybodaeth am y prosiect ar wefan: https://listen-europe.eu/